Literacy
Translation coming soon...
Mae sgiliau llythrennedd cryf yn sylfaen gadarn i gwricwlwm ysgol lwyddiannus. Atgyfnerthir y cwricwlwm ymhob pwnc drwy ddatblygu gallu disgyblion i siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu.
Mae datblygu llythrennedd a’r Gymraeg a Saesneg fel pynciau wedi eu cysylltu’n agos ac mae’r gwaith a wneir o fewn y pynciau yma yn gwbl allweddol i ddatblygu eu sgiliau. Er hyn mae gan bob adran ac athro ran allweddol i’w chwarae mewn datblygu llythrennedd o fewn yr ysgol. Mae pob athro neu athrawes bellach yn athrawon llythrennedd.
Mae Ysgol Dyffryn Nantlle yn gwbl ymroddedig i ddatblygu sgiliau llythrennedd ym mhob un o’n disgyblion, yn y gobaith y byddwn yn codi safonau ar draws y cwricwlwm.
Yr ydym yn credu fod llythrennedd yn allweddol ar gyfer gwella dysgu a chodi safonau. Mae’n galluogi disgyblion i;
-
gymryd rhan lawn ymhob pwnc
-
ddarllen gwybodaeth am bleser
-
gyfathrebu’n hyderus ac effeithiol
-
baratoi ar gyfer addysg uwch neu fyd gwaith
Mae llythrennedd yn gyfrifioldeb ysgol gyfan. Mae disgwyl i bob aelod o gymdeithas yr ysgol gefnogi a hyrwyddo ein hymgyrchu i godi safonau llythrennedd o fewn yr ysgol drwy fabwysiadu strategaethau cyson a disgwyliadau cyson uchel ar draws yr ysgol.
Dylai’r disgyblion gael eu dysgu i fynegi eu hunain yn glir ar lafar ac yn ysgrifenedig a datblygu eu sgiliau darllen.
Dylid eu dysgu i ysgrifennu brawddegau sydd yn ramadegol gywir a'u dysgu i sillafu ac atalnodi er mwyn cyfathrebu’n effeithiol o fewn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae disgyblion angen geirfa gyfoethog ag eang i fedru lleisio eu barn ac i fedru dygymod â gofynion gwybyddol o fewn pynciau. Mae ysgrifennu yn gymorth i gofio ac i roi trefn ar y meddwl.
Mae iaith yn gymorth iddynt adlewyrchu, adolygu a gwerthuso'r hyn y maent yn ei wneud a’r hyn mae eraill yn ei wneud, ei ddweud wedi ei ysgrifennu neu wneud.
Mae ymateb i gwestiynu effeithiol yn annog sgiliau meddwl.
Mae darllen yn gymorth i ddisgyblion ddysgu oddi wrth ffynonellau tu hwnt i’w profiadau eu hunain.
Strategaeth Llythrennedd yr Ysgol - cliciwch yma
Ddogfen Anog Plant i Ddarllen - cliciwch yma
Cofnod Dysgu - cliciwch yma
Contact
Ysgol Dyffryn Nantlle,
Ffordd y Brenin,
Penygroes,
Caernarfon,
Gwynedd
LL54 6AA
Telephone: (01286) 880345
E-mail: click here